Mentera Newyddion

03 Tach 2026

Mentera yn lansio cyfres newydd o ddigwyddiadau i gefnogi diwydiannau creadigol Cymru

Mentera launches new series of events to support Wales’ creative industries

Mentera yn lansio cyfres newydd o ddigwyddiadau i gefnogi diwydiannau creadigol Cymru: Llun Creadigol 2-3

Mae Mentera yn lansio cyfres o ddigwyddiadau ar gyfer y diwydiannau creadigol, er mwyn helpu'r sector i ddatblygu a ffynnu. Y nod yw dod â busnesau, entrepreneuriaid a gweithwyr llawrydd ynghyd i helpu i lunio cefnogaeth y dyfodol i'r sector. Bydd y gwaith yn dechrau drwy gynnal cyfres o ddigwyddiadau creadigol, ‘Diwydiannau Creadigol Cymru: Creu Cysylltiadau Creadigol’ ar hyd a lled Cymru, gan ddechrau yn Wrecsam, Caerfyrddin a Chaerdydd.  

Bydd y digwyddiadau'n cynnig cyfle i bobl sy'n gweithio ar draws y sector creadigol rannu eu profiadau, trafod y gefnogaeth sydd eisioes yn bodoli, adnabod heriau a chyfleoedd, a chael dweud eu dweud ar y math o gymorth sydd ei angen i helpu busnesau creadigol i ffynnu. 

Gan gydnabod pwysigrwydd cynyddol y sector i economi Cymru, bydd Mentera yn cynnal sgyrsiau agored gyda gweithwyr proffesiynol o ystod eang o feysydd creadigol, gan gynnwys cerddoriaeth, ffilm a theledu, dylunio, digidol, gemau, cyhoeddi, animeiddio, y celfyddydau gweledol a chreu cynnwys.  

Yn hytrach na chynadleddau ffurfiol, bydd y sesiynau wedi'u cynllunio fel trafodaethau agored, gan roi cyfle i gyfranogwyr rannu eu safbwyntiau ar y gefnogaeth, y sgiliau, yr isadeiledd a'r cyfleoedd sydd eu hangen i gryfhau'r sector a chefnogi twf busnesau creadigol yng Nghymru.  

Bydd y wybodaeth a'r mewnwelediadau a gesglir yn ystod y gyfres yn cael eu defnyddio i lunio pecyn cymorth ymarferol i fusnesau ac entrepreneuriaid creadigol. Bydd y pecyn yn cynnwys adnoddau, canllawiau ac arweiniad wedi'u datblygu'n uniongyrchol o'r adborth a gesglir gan y sector ei hun, gan sicrhau bod y gefnogaeth yn berthnasol ac yn ymateb i anghenion gwirioneddol busnesau creadigol Cymru. 

Dywedodd Llŷr Roberts, Prif Weithredwr Mentera: 

"Mae Cymru yn gartref i gyfoeth anhygoel o dalent, creadigrwydd ac ysbryd entrepreneuraidd. Trwy'r digwyddiadau hyn, ein nod yw gwrando ar leisiau'r sector, deall yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu busnesau creadigol heddiw, a sicrhau bod unrhyw gefnogaeth yn y dyfodol yn cael ei llywio gan y bobl sydd â'r profiad uniongyrchol o weithredu yn y maes." 

"Mae hwn yn gyfle i dynnu'r sector ynghŷd ac adnabod yr hyn sydd yn mynd i gyfrannu at lwyddiant y sector i dyfu a llwyddo mewn ffordd gynaliadwy. Credwn fod gan y sector greadigol rôl allweddol i'w chwarae yn economi Cymru'r dyfodol ac edrychwn ymlaen at adeiladu'r daith hon mewn partneriaeth â'r sector." 

Mae'r rhaglen yn nodi ymrwymiad ehangach gan Mentera i gefnogi a chryfhau ecosystem greadigol Cymru, gan greu cyfleoedd i fusnesau, entrepreneuriaid a gweithwyr llawrydd gydweithio, datblygu a ffynnu. 

Llun Creadigol 1-2

Archebwch eich lle er mwyn ymuno â digwyddiadau: 

Digwyddiad Wrecsam:  

Archebwch Tocyn: Creative Industries Wales: Creative contacts Tickets, Tuesday, November 10  •  2:15 PM - 4:30 PM | Eventbrite 

Digwyddiad Caerfyrddin:  

Archebwch Tocyn: Creative Industries Wales: Creative Contacts Tickets, Tuesday, November 24  •  2 PM - 4:30 PM | Eventbrite 

Digwyddiad Caerdydd:  

Archebwch Tocyn: Creative Industries Wales: Creative Contacts Tickets, Wednesday, November 25  •  2 PM - 4:30 PM | Eventbrite 

Gwybodaeth Gyswllt

Mae Mentera yn gwmni nid-er-elw sydd wedi bod yn cynnig cymorth a chyngor i entrepreneuriaid a busnesau yng Nghymru a thu hwnt ers 35 mlynedd.

Busnesau llwyddiannus yw’r allwedd i economi ffyniannus, ac mae Cymru’n llawn pobl sydd â syniadau busnes gwych. Mae’n bwysig eu hysbrydoli a’u grymuso i sicrhau dyfodol llewyrchus i Gymru.

Mae Mentera yn credu y dylai unrhyw fusnes gael y cyfle i gyrraedd safon fyd-eang yn yr hyn mae’n ei wneud – a dyna’n union pam mae angen gweithio’n agos gyda nhw i’w helpu i dyfu. Mae’n dda i fusnes – ac yn dda i Gymru.

Ewch i mentera.cymru am ragor o wybodaeth.